Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Committee Room 4 - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2020

Amser: 09.11 - 10.19
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
6481


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Janet Finch-Saunders AS (Cadeirydd)

Michelle Brown AS

Neil McEvoy AS

Leanne Wood AS

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Mared Llwyd (Ail Glerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant.

 

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P-05-1029 Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno profion gorfodol ar yr holl deithwyr sy’n cyrraedd Maes Awyr Caerdydd

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan fynegi eu siom ynghylch y diffyg ymateb i'r ddeiseb gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i ysgrifennu eto i ofyn bod un yn cael ei ddarparu ar y cyfle cyntaf.

 

</AI3>

<AI4>

2.2   P-05-1041 Polisi a chyllid clir ar gyfer ysbytai a chartrefi gofal ar gyfer ymweliadau rhithwir yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Fforwm Gofal Cymru i geisio eu barn ar y mater a godwyd gan y ddeiseb, a digonolrwydd y canllawiau a'r gefnogaeth bresennol sydd ar gael i gartrefi gofal.

 

</AI4>

<AI5>

2.3   P-05-1043 Sicrhau bod gweithgynhyrchu a chynhyrchu cyfarpar diogelu personol (PPE) digonol ar gyfer Cymru, yng Nghymru, ar ôl Covid-19.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ohebiaeth a gafwyd, a boddhad y deisebydd â'r camau a amlinellwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn sgil hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r mater pwysig hwn.

 

</AI5>

<AI6>

2.4   P-05-1047 Gadewch i dafarndai a bariau fasnachu, a chanslo'r cyrffyw

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ddeiseb a'r ohebiaeth a ddaeth i law.

Cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb yn sgil y ffaith bod y rheolau wedi newid ymhellach ers cyflwyno'r ddeiseb a bod y Pwyllgor ar fin ystyried deisebau pellach, esboniad y cyngor gwyddonol y tu ôl i'r cyrffyw 10pm o dan arweiniad y Gell Cyngor Technegol, yr arian a amlinellwyd ar gyfer cefnogi'r diwydiant a’r gwaith craffu ar faterion cysylltiedig sy'n cael eu cynnal gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

 

</AI6>

<AI7>

2.5   P-05-1048 Dylid caniatáu i bobl hŷn gael mynediad i gyfleusterau chwaraeon awyr agored ar gyfer eu lles corfforol a meddyliol

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ddeiseb a'r ohebiaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys yr esboniad o gau eiddo fel clybiau golff yn ystod cyfyngiadau symud. Yn sgil cyflwyno set o reolau cenedlaethol sy'n golygu bod clybiau golff a chyfleusterau eraill bellach wedi ailagor yn dilyn cyfnodau blaenorol o gyfyngiadau symud, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

</AI7>

<AI8>

2.6   P-05-1051 Caniatáu i athletwyr iau Cymru hyfforddi dan yr un rheoliadau Covid â’u cymheiriaid iau yn Lloegr

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, a Chwaraeon Cymru, i ofyn am ragor o wybodaeth o ran y rhesymau dros gael gwahanol reolau ar waith ar gyfer gwahanol chwaraeon, ac a ellir cael gwell cytgord rhwng gwahanol gyrff llywodraethu.

 

</AI8>

<AI9>

2.7   P-05-1053 Cadwch gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau, os cyflwynir cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser i gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y mater hwn. Yn sgil ystod o ddeisebau a phryderon a ddaeth i law ynghylch mynediad at gyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol – ac i sicrhau defnydd effeithlon o amser y Cyfarfod Llawn – cytunodd y Pwyllgor y dylai'r cynnig am ddadl gwmpasu'r cyd-destun ehangach hwn gan ganiatáu, felly, trafod ystod o chwaraeon a mangreoedd.

 

</AI9>

<AI10>

2.8   P-05-1063 Dylid agor cyrsiau golff gan eu bod yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella iechyd corfforol ac iechyd meddyliol

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i geisio amser i gynnal gyfer dadl eang ar fynediad i gyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud, gan ymgorffori'r ddeiseb hon a sawl un arall.

 

</AI10>

<AI11>

2.9   P-05-1057 Cynyddu nifer y bobl sy’n cael mynd i dderbyniadau priodas.

Datganodd Janet Finch-Saunders y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Cyn bo hir bydd yn mynd i briodas ei mab.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar yr ohebiaeth a gafwyd gan y Prif Weinidog. 

 

</AI11>

<AI12>

2.10P-05-1058 Atal ail gyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol yng Nghymru.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i'w nodi, ynghyd â'r ohebiaeth a ddaeth i law. Cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach yn sgil y ffaith bod yr amgylchiadau wedi newid ers cyflwyno'r ddeiseb, ac oherwydd ei bod yn annhebygol iawn y byddai Llywodraeth Cymru yn diystyru'r angen am gyfnodau o gyfyngiadau symud ar hyn o bryd. Wrth wneud hynny cytunodd yr Aelodau i nodi'r teimladau a fynegwyd yn y ddeiseb, diolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

</AI12>

<AI13>

2.11P-05-1059 Dylid rhoi mannau addoli mewn dosbarth hanfodol, er mwyn caniatáu i bobl fynd i eglwys yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, cytunodd i nodi'r ohebiaeth a ddaeth i law a chydnabod pwysigrwydd y mater a godwyd. Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb o ystyried bod penderfyniadau blaenorol wedi’u cymryd i osod cyfyngiadau yn dilyn cyngor gwyddonol ac asesiadau effaith, a bod addoldai wedi gallu agor ers diwedd y cyfnod atal byr. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

</AI13>

<AI14>

2.12P-05-1061 Rhowch gefnogaeth ariannol i fusnesau Lletya Anifeiliaid Anwes.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Cyllid i rannu'r wybodaeth bellach y mae’r deisebydd yn ei rhoi, ac amlygu'r cynigion a wnaed o ran yr anawsterau y mae'r diwydiant hwn wedi'i cael wrth gyrchu rhaglenni cymorth ariannol presennol.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn am ystyried y rhain wrth ddylunio cam nesaf y Gronfa Gwydnwch Economaidd neu raglenni cymorth eraill.

 

</AI14>

<AI15>

2.13P-05-1066 Caniatewch i gorwyr a chorau ieuenctid ganu yng Nghymru ac i gerddorion ifanc berfformio mewn grwpiau

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ddeiseb a'r ohebiaeth a ddaeth i law.

Penderfynodd y Pwyllgor beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb oherwydd bod canllawiau manwl ar 'Ymarfer, perfformio a chymryd rhan yn y celfyddydau perfformio wedi'i diweddaru'n ddiweddar yn dilyn y cyfnod atal byr, caniateir gweithgareddau dan do bellach ar gyfer grwpiau bach, a'r sefyllfa sy’n mynd rhagddi o ran y pandemig. Wrth wneud hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb.

 

</AI15>

<AI16>

2.14P-05-1049 Newid i wyliau ysgol yr haf!

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i'w nodi, ynghyd â'r ohebiaeth a ddaeth i law.

Penderfynodd y Pwyllgor beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb o ystyried bod adolygiad a oedd i ystyried y flwyddyn ysgol, wedi cael ei ohirio oherwydd y pandemig, honiad y Gweinidog Addysg na all ymrwymo adnoddau pellach i hyn ar hyn o bryd, a'r ffaith nad oes gan Weinidogion rôl ffurfiol ar hyn o bryd wrth bennu dyddiadau’r tymor. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb.

 

</AI16>

<AI17>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI17>

<AI18>

3.1   P-05-954 Deiseb yn galw am ymchwiliad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru i gam-drin plant hanesyddol ar Ynys Byr

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb ac ystyriodd nad oes llawer o opsiynau ar gael iddo ar hyn o bryd, o ystyried bod safbwynt Llywodraeth Cymru ar ymchwiliad cyhoeddus yn parhau i fod yr un fath. Cytunodd yr Aelodau i gadw golwg ar y mater, ac i ddychwelyd at y ddeiseb yn y flwyddyn newydd.

 

</AI18>

<AI19>

3.2   P-05-932 Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad pellach ar y ddeiseb a nododd yr ymatebion pellach a ddaeth i law, gan gynnwys y wybodaeth fanwl a ddarparwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Cytunodd y Pwyllgor nad oes unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd, yn realistig, ar hyn o bryd yn sgil yr ymatebion manwl a ddaeth i law, gan gynnwys am waith a gynlluniwyd ond a ohiriwyd gan bandemig y Coronafeirws, a'r ffaith bod y Gweinidog Addysg wedi gwrthod cyflwyno dyletswyddau cyfreithiol newydd ar yr adeg hon. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ei hymgysylltiad trwy gydol y broses.

 

</AI19>

<AI20>

3.3   P-05-985 Darparu gofal plant i weithiwr allweddol sy'n cyfateb i'r hyn a oedd ar gael cyn pandemig Covid-19

Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1015 Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith hanfodol.

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunwyd – yn sgil y gwaith craffu parhaus sy'n cael ei gymhwyso i'r pwnc hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cadw ysgolion ar agor, a'r disgwyliadau a'r arweiniad a gynhyrchir ynghylch darparu dysgu ar-lein – nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

</AI20>

<AI21>

3.4   P-05-1011 Gwersi rhithwir ar-lein dan arweiniad athrawon ar gyfer pob plentyn ysgol

Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb – P-05-1015 Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith hanfodol

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb ac yn sgil y gwaith craffu parhaus sy'n cael ei gymhwyso i'r pwnc hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cadw ysgolion ar agor, a'r disgwyliadau a'r arweiniad a gynhyrchir ynghylch darparu dysgu ar-lein, cytunodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gamau pellach y gallent eu cyflawni ar yr adeg hon, a chytunwyd i gau'r deisebau a diolch i'r deisebwyr.

</AI21>

<AI22>

3.5   P-05-1015 Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith hanfodol

Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1011 Gwersi rhithwir ar-lein dan arweiniad athrawon ar gyfer pob plentyn ysgol.

 

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunwyd – yn sgil y gwaith craffu parhaus sy'n cael ei gymhwyso i'r pwnc hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cadw ysgolion ar agor, a'r disgwyliadau a'r arweiniad a gynhyrchir ynghylch darparu dysgu ar-lein – nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

</AI22>

<AI23>

3.6   P-05-1028 Llaciwch y cyfyngiadau gormodol i ganiatáu i ralïau chwaraeon modur gael eu cynnal yng Nghymru.

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg ar y ddeiseb tan y Flwyddyn Newydd.

 

</AI23>

<AI24>

3.7   P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg tan ddiwedd tymor y Senedd, ac ystyried y ddeiseb eto, pe cyhoeddir canfyddiadau adolygiad a gomisiynwyd yn ddiweddar o ymdeimlad mewn cramenogion dectroed cyn yr amser hwnnw.

 

</AI24>

<AI25>

3.8   P-05-1026 Deiseb i wahardd maglu bywyd gwyllt i’w defnyddio yn y fasnach ffwr

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn gwahaniaethu rhwng gwahanol resymau dros ddefnyddio maglau, ac a fyddai’n ystyried cymryd camau cryfach o ran eu defnyddio at ddibenion masnach mewn ffwr.

 

</AI25>

<AI26>

3.9   P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)

Trafododd Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i gynhyrchu adroddiad cryno o'i ystyriaeth o'r ddeiseb, gan gynnwys unrhyw argymhellion y mae'n dymuno eu gwneud, gyda'r bwriad o gyhoeddi hyn cyn diwedd tymor y Senedd.

 

</AI26>

<AI27>

3.10P-05-1009 Gorchmynnwch Gynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i’r Dreth Gyngor ar ail gartrefi.

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i nodi'r wybodaeth bellach a gafodd am y sefyllfa bresennol o ran premiymau treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi. Yn sgil hynny – ac esboniad blaenorol y Gweinidog am natur ddewisol y pŵer, a gymeradwywyd gan y Pwyllgor – cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

</AI27>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>